T. Llew Jones Doedd neb balchach nag Ieuan o groesawu Syr Harri Morgan, perchennog Plas-marl yn ol i Abergafenni. Wedi'r cyfan, roedd y llanc ifanc yn siwr y gallai'r marchog hwn a fu'n feistr ar holl gryfder morwyr Sbaen rwystro's dihiryn Richard Llwyd rhag hawlio'r Plas a'r stad yn eiddo iddo ef ei hun. Ond chwalwyd gobeithion Ieuan pan gipiodd Richard a'i gyfaill Wil Ddu fap Harri Morgan a ddangosai union leoliad y trysor a gladdodd yng gnhanol y goedwig wrth odre mynyddoedd y Sierra Nevada.
Ond roedd Harri Morgan yn benderfynol o hawlio'i drysor, yr aur a'r arian a wnai'n un o'r dynion cyfoethoca' yn y byd. Ac er gwaetha' peryglon enbyd y fordaith o Fryste i'r Gorllewin, fe gytunodd Ieuan ap Siencyn ddilyn Harri Morgan ar un o'r anturiaethau morwrol mwyaf rhyfedd a fu eriod.
Genres:
253 Pages